Annwyl Gyfaill
Mae Tarian Cymru angen eich help, i rannu’r ymgyrch – ac i helpu mwy o weithwyr iechyd a gofal.
Gyda’n gilydd yr wythnos hon fe gyrrhaeddon ni £10,000. Diolch o galon. Mae’ch haelioni a’ch cariad tuag at ein gweithwyr yn syfrdanol.
Gweithwyr gofal, rydym yn eich gweld
Gan ein bod ni wedi cyrraedd y targed gwreiddiol rydyn ni am gynnwys gweithwyr mewn cartrefi gofal a hosbisau, yn ogystal â gweithwyr GIG Cymru. Mae’n siŵr y byddwch chi wedi gweld sefyllfa argyfyngus ein weithwyr gofal ar y newyddion. Y targed newydd yw £20,000 i adlewyrchu’r angen dirfawr.
Dydy’ch cyfraniadau chi ddim yn segur: mae’n cael ei ddefnyddio’n syth i brynu offer safon proffesiynol i weithwyr.
Mae’r fisyrau yn cael eu dosbarthu heddiw! Rydyn ni newydd gyflwyno archeb am ynau meddygol. Mae’r gynau yn gwarchod yn wych ac yn cydymffurfio gyda safonau rhyngwladol.
Archeb nesaf
Nawr mae angen i ni archebu cymaint o fygydau KN95/FFP2 â phosibl. NID pethau ysgafn o siop stryd fawr yw’r mygydau – maen nhw’n cydymffurfio â nifer o safonnau llym o ran ansawdd. Mae gweithwyr iechyd a gofal yn gofyn amdanynt yn aml. Byddai’n wych gallu archebu sawl mil ohonyn nhw. Mae’n ddibynnol ar gyllid.
Ymateb i’r alw
Mae’n tîm o wirfoddolwyr yn ymgysylltu â gweithwyr iechyd a gofal bob dydd. Os bydd y galw gan weithwyr a sefydliadau yn newid byddwn yn ymateb. Os bydd y llywodraeth, byrddau iechyd ac awdurdodau eraill yn cyflawni anghenion byddwn ateb yr angen yn rhywle arall.
Rhannwch y ddolen
Mae hon yn ffordd rymus o helpu. Gallwch chi rannu dolen GoFundMe. Fel arall y fersiwn byr yw tarian.cymru
Mae syniadau codi arian isod.
Teulu a ffrindiau
Annogwch ffrindiau a theulu i gyfrannu ac i rannu’r ddolen.
Gofodau ar-lein
Ydych chi’n rhedeg gwefan, podlediad, grŵp Facebook, cyfrif Twitter neu gyfryngau eraill – mawr neu fach? Efallai eich bod yn aelod o grŵp WhatsApp – o dri o bobl neu fwy? Plîs soniwch am yr ymgyrch yn y gofod ar-lein hwnnw.
Grwpiau a sefydliadau
Ydych chi’n rhan o gymdeithas, clwb, tîm chwaraeon, côr, grŵp o fewn plaid wleidyddol, addoldy, neu rywbeth tebyg? Plîs dwedwch wrth ffrindiau a chyd-weithwyr am yr ymgyrch. Gofynnwch i’r person sy’n gyfrifol am gyfathrebu i ledaenu’r neges.
Cerddorion
Ydych chi’n canu neu’n chwarae cerddoriaeth? Ydych chi’n gallu cynnal gig ar-lein? Ydych chi’n gallu codi arian? Mae Carwyn Ellis (Colorama, Rio 18) a Gareth Bonello (Gentle Good) wedi rhyddhau cerddoriaeth ar eu tudalennau Bandcamp, ac fe fydd yr holl incwm yn mynd at waith Tarian Cymru. Diolch iddyn nhw!
Artistiaid
Ydych chi’n gallu cynnig gwaith celf – boed yn bodoli neu yn gomisiwn newydd? Bydd ein tîm codi arian, sydd i gyd yn wirfoddolwyr, yn trefnu ocsiwn. Plîs ystyriwch gefnogi, a chysylltwch â ni am sgwrs.
Eraill
Os oes gennych syniad arall i godi arian (cwisys, comedi, theatr, darlith, stynt, digwyddiad, unrhyw beth sy’n dod i’ch meddwl…) ewch amdani a threfnwch. Gadewch i ni wybod am eich cynlluniau trwy Twitter, Facebook, neu e-bostio post@tarian.cymru
Mae pob rhodd y gallwch chi ei annog yn cyfrif. GoFundMe yw’r ffordd orau o gasglu taliad. Os oes angen i chi gymryd taliad trwy ddull gwahanol cyslltwch â ni os gwelwch yn dda.
Ocsiwn
O.N. Mae Tarian Cymru yn cynnal ocsiwn mewn partneriaeth ag enwogion o fri.