Categorïau
Apêl gyntaf Diweddariad (GoFundMe)

PPE: tu hwnt i’r £20,000

English

Annwyl Bawb

Mae’n debyg bydd problemau PPE enbyd yng Nghymru am sbel.

Yn ôl ein gweinidog iechyd ‘ychydig ddyddiau’ yn unig o PPE sydd ar ôl – ac roedd hynny ddydd Mawrth, yn ôl BBC Cymru Fyw.

Am yr haf (o leiaf) bydd angen ymatebion cymunedol i weithwyr iechyd a gofal – lle mae ymdrechion swyddogol wedi methu.

Targed newydd

Rydych chi wedi helpu ni i gyrraedd y targed o £20,000 nos Iau, diolch o galon i chi.

Rydym wedi gosod targed newydd o £50,000 yn syth.

Yr angen mwyaf yw i archebu mwy o gownau meddygol i’n gweithwyr iechyd. Rydym wedi dosbarthu rhai, ond mae nhw’n mynd yn gyflym. Dydyn ni byth yn eistedd ar focsys PPE.

Mae Tarian Cymru wedi archebu’r eitemau: menyg, gownau meddygol, mygydau, a feisors.

“Dan ni’n iwsio masks papur, ac oedd nghalon ‘di colli curiad pan ges i’r alwad ffôn. Diolch o galon, allwn i ddim deud pa mor ddiolchgar ydan ni.”
Di-enw, ysbyty yng ngogledd Cymru

Rhannwch, rhannwch, RHANNWCH:
https://tarian.cymru

Darllenwch flog Tarian Cymru am syniadau ac ysbrydoliaeth.

Y gwaith

Yn ogystal ag archebu mae Tarian Cymru wedi partneru gyda phrosiectau gweithgynhyrchu lleol am feisors, gan gynnwys Prosiect Cymunedol Crymych ac Ysgol Bro Morgannwg.

Rydym yn datblygu ein rhwydweithiau dosbarthu a thimau i ymestyn i HOLL ysbytai a safleoedd iechyd a gofal Cymru. Mae pawb yn gwirfoddoli.

Mae’r holl gefnogaeth – ariannol, ymarferol, a moesol – yn galonogol iawn.

Ar hyd y daith rydym yn rhannu ein holl gysylltiadau cyflenwi gyda’r awdurdodau Cymreig, ac yn addasu gweithgaredd ar sail angen.

Dyma lun uchod o Ward H, Ysbyty Treforus, Abertawe yr wythnos hon.

Rhannwch

Rhannwch wefan Tarian Cymru, trydariadau Twitter a negeseuon Facebook i annog ffrindiau i gyfrannu.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.