Mae’r holl artistiaid isod wedi rhyddhau caneuon i gefnogi Tarian Cymru. Mae amrywiaeth eang o arddulliau a rhywbeth i bawb.
Bydd yr holl elw yn mynd tuag at brynu a dosbarthu offer gwarchodol i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru. (Dim ffioedd Bandcamp ar 5 Mehefin!)
Prynwch a gwrandewch a mwynhewch!
Elin Fflur
Newydd sbon heddiw!
Dyma anthem pop ysbrydoledig o’r enw Enfys.
Carwyn Ellis
Mae Carwyn yn adnabyddus fel arweinydd bandiau rhyfeddol Colorama a Rio 18.
Mae e wedi rhyddhau sengl…
…ac EP, i gefnogi’r apêl, fel artist solo.
Corona Revolver
Waw! Dyma lwythi o gerddorion o’r sîn Caerdydd a thu hwnt sydd wedi ailddehongli’r clasur o albwm Revolver gan The Beatles. Mae’r albwm am ddim i godi ymwybyddiaeth o’r apêl felly cyfrannwch yn hael os gwelwch yn dda os ydych chi’n mwynhau’r albwm.
Carys Eleri
Dwy gân gomedi gan y gantores, actores, cyfansoddwraig, … o’r Tymbl!
Mae Charlotte Church, Erin Richards, Nick Helm a Owain Wyn Evans yn ymddangos yn y fideos: Fat ‘n’ Clean a Beyond the Fence.
Stiwdio Sain
Pan gawni fynd allan eto
Mi fydd y byd i gyd yn newydd
Pwy yw Stiwdio Sain?
Wel…
Guto Dafydd
Gethin Griffiths
Aled Wyn Hughes
Angharad Jenkins
Ifan Emlyn Jones
Owain Roberts
Branwen Haf Williams
Georgia Ruth Williams
Osian Huw Williams
ac mae Georgia Ruth wrthi’n gweithio ar gasgliad amlgyfranog o ailgymysgiadau o’i thiwns!
John Nicholas & The South Wales Collective
Lawrlwytho am ddim, cyfrannwch yn hael plîs.
Pwy yw’r South Wales Collective sy’n canu’r gân wreiddiol hon gan John Nicholas?
… John Adams, Tom Auton, Holy Home Video, Sons of Owen, Bryony Sier, Whiskey Lies (Chris Morris), Laura Power, Pay The Man, LUNA TIDES (Thomas James), Julia Harris, Tomos Lewis, Stuart Paton, Lowri Thomas, John Nicholas, Eleri Angharad, Fire Fences (Aaron Nicholas), The Blims (Martin Dann), James Davies, Nathan Warnes.
The Gentle Good
Diolch i Gareth Bonello am ei gefnogaeth cynnar i’r apêl: “cyfansoddiad gwreiddiol sy’n ceisio creu darlun cerddorol o’r profiad o nofio mewn afonydd. Bron 5 munud o gerddoriaeth offerynnol a chaneuon adar i’ch gwibio yn ôl i lan yr afon.”
…Diolch!
Cerddorion… Plîs gadewch wybod os oes angen cynnwys unrhyw senglau neu albymau eraill.
Diolch hefyd i Gruff Rhys, Gwenno, Adwaith, R Seiliog… am gyfrannu nwyddau a recordiau i ni werthu. Diolch i Jean Jacques Smoothie, Hoy a’i ffrindiau ac eraill sydd wedi gwneud perfformiadau a gigs ar-lein.
Diolch o galon i’r holl artistiaid ac i chi am wrando a chefnogi.