Categorïau
Apêl gyntaf Datganiad

Sgript Richard Burton prin mewn ocsiwn ar gyfer apêl Tarian Cymru

English

Mae sgript prin oedd yn eiddo i’r eicon actio Richard Burton mewn ocsiwn ar-lein i godi arian ar gyfer apêl PPE Tarian Cymru.

19 oed oedd Richard Burton pan gafodd ei gastio yn fersiwn radio 1945 o’r ddrama The Corn is Green, a gynhyrchwyd gan ei fentor tymor hir, ei gydweithredwr a’i ffrind Philip Burton.

Gwaith actio cynnar iawn yn ei yrfa oedd hwn i Richard Burton, nad oedd yn actor proffesiynol eto, heb sôn am yr enwogrwydd byd-eang a ddaeth yn sgil ei lwyddiannau yn Hollywood a’i berthynas adnabyddus gyda’i gyd-actor Elizabeth Taylor.

Mae’r sgript wedi’i deipio ac mae’n cynnwys nifer o nodiadau mewn pensil wedi eu hychwnaegu, mae’n debyg, gan Richard Burton ei hun.

Fe’i darganfuwyd gan yr awdur o Gymru Richard King wrth glirio cartref ei rieni yng Nghasnewydd. Dywed yr awdur ‘Rwy’n ymwybodol o berthynas, hen hen fodryb o bosibl, a fu’n gweithio yn y BBC yn ystod y rhyfel ac rwy’n tybio mai trwyddi hi y daeth y sgript i feddiant fy nheulu. Roedd fy rhieni hefyd yn weithgar iawn ym maes drama amatur ddiwedd y 1950au mewn lleoedd fel Oxford House yn Risca, felly efallai mai cymdeithas ddrama leol a oedd wedi defnyddio sgript yr addasiad radio oedd y ffynhonnell’.

Darlledwyd The Corn Is Green yn wreiddiol ym mis Ionawr 1945 ar Wasanaeth Cartref y BBC. Roedd dramâu radio o’r fath yn ffynhonnell celf ac adloniant hanfodol i gyhoedd oedd yn ymdopi â thrallod hir yr Ail Ryfel Byd. Gwyddys bod Richard Burton ei hun wedi gweithio i’r pwyllgor Cydweithredol lleol adeg y rhyfel, gan ddosbarthu cyflenwadau yn gyfnewid am gwponau ym maestrefi Port Talbot.

Mae Tarian Cymru yn dosbarthu offer amddiffynnol personol (PPE) i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru. Dywed Carl Morris, cyd-drefnydd yr apêl, “Roedden ni yn yr apêl wrth ein boddau o gael y sgript anhygoel a hynod ddiddorol hon, sydd o bwysigrwydd aruthrol i hanes y celfyddydau dramatig, ac wrth gwrs ffans Richard Burton. Mae’r ocsiwn hon yn gyffrous iawn – mae’n dechrau am 99c fel y gall bron unrhyw un gynnig. Pwy fydd yn dod yn berchennog lwcus y sgript anarferol hon? Mae’r holl gefnogaeth i’r apêl wedi bod yn ysgubol, yn ei holl ffurfiau – o gerddorion, i sefydliadau, i heriau chwaraeon, i roddion gan gefnogwyr unigol, ac arwerthiannau fel hyn. Mae pob ceiniog a godwn trwy hyn a dulliau eraill yn mynd tuag at brynu a dosbarthu PPE ar gyfer ein gweithwyr iechyd a gofal ledled Cymru.”

  • Mae’r ocsiwn a lluniau o’r sgript ar gael ar eBay.
  • Actor o Gymru oedd Richard Burton a anwyd fel Richard Jenkins ym 1925 ym Mhontrhydyfen ger Port Talbot a Castell-nedd. Cafodd ei enwebu am Wobr Academi saith gwaith, ac mae ganddo gysylltiad agos yn ymwybyddiaeth y cyhoedd gyda’i ail wraig, yr actor Elizabeth Taylor.
  • Ysgrifennwyd y ddrama The Corn is Green gan yr actor a dramodydd nodedig Emlyn Williams – a oedd hefyd yn ffrind agos i Richard Burton. Fe’i haddaswyd ar gyfer radio gan T Rowland Hughes a’i ddarlledu gyntaf ar Saturday Night Theatre, BBC Home Service ar 27 Ionawr 1945. Bu Gladys Young a Jesse Evans hefyd yn actio yn yr addasiad radio.
  • Cynhyrchydd y ddrama radio oedd Philip Burton, a oedd yn athro, mentor a ward gyfreithiol Richard Burton er 1943 – a dyna pam y newidiodd Richard gyfenw o Jenkins i Burton. Byddai’r ddau ddyn yn cydweithredu ar brosiectau ac aros yn agos am nifer o flynyddoedd.
  • Mae Tarian Cymru yn ymgyrch ledled Cymru i ddarparu offer amddiffynnol i weithwyr allweddol. Dechreuwyd yr ymgyrch codi arian gan wirfoddolwyr ar Ebrill 6ed.
  • Mae’r arian a godwyd bellach wedi pasio £76,000, ac mae dros 200,000 o ddarnau o PPE wedi’u dosbarthu.
  • Mae’r ymgyrch codi arian yn cael ei rhedeg fel menter cyllido torfol ar blatfform GoFundMe, gyda thîm o wirfoddolwyr yn gweithio i gael y PPE iawn i’r gweithwyr sydd ei angen fwyaf.
  • Cynghorir gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol sy’n gweithio heb PPE digonol i gysylltu â’r apêl trwy’r ffurflen.
  • I gyfrannu ewch i’r tudalen GoFundMe

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.